Ar hyn o bryd mae’r meddyg yn gweithio mewn unedau brys, ac yn bwriadu mynd yn Feddyg Teulu ym mis Awst.
Bu’n fyfyriwr Meddygaeth yng Nghaerdydd, a bellach mae’r ferch 26 oed yn ôl adref ym mhentref Bethel ger Caernarfon, ac yn arweinydd ar raglen FFIT Cymru S4C…
Pam wnaethoch chi geisio am le ar FFIT Cymru?
Dw i wedi stryglo efo pwysau am amser hir, ond yn fwy felly efo locdawn, yn rhoi pwysau ymlaen.
Dw i wedi bod yn gwneud couch to five K, a dw i yn gallu rhedeg pump cilomedr rŵan – yn araf iawn.
Ond doedd dim byd roeddwn i’n wneud [i golli pwysau] yn gweithio, a wnes i feddwl: ‘Pam lai, wna i fynd amdani.’
Roeddwn i wedi gweld y canlyniadau mae pobol wedi eu cael ar gyfresi cynt, ac mae pawb wedi gwneud mor dda allan ohono fo…
Ac roeddwn i wedi cael diod bach o win ar y noson wnes i lenwi’r ffurflen gais, a wnaeth hynny helpu!
Sut mae’r teulu wedi ymateb?
Maen nhw yn falch.
Dim ond fi a mam sydd adref ar y funud. Mae gen i frawd a chwaer, ac mae’r ddau ohonyn nhw lawr yn Llundain.
Tydi’r ddau ohonyn nhw ddim wedi cael issues efo pwysau – mae fy mrawd fel styllan.
Ond mae Mam wastad wedi dweud ein bod ni’n dwy yr union yr un siâp, felly mae hi am fod yn gwneud y cynllun [ffitrwydd] efo fi, sydd yn mynd i fod yn neis, efo’r ddwy ohonan ni adref yn cefnogi ein gilydd.
Pa mor anodd yw bwyta’n gall a chithau ar shifftiau hwyr yn A&E?
Pan gychwynnodd covid, roeddwn i’n gweithio yn ysbytai Caerdydd, ac roedd lot o’r bwytai yn gyrru bwyd fewn i ni yn y gwaith.
Felly roedden ni yn bwyta bwyd anhygoel – cyris Michelin star ac ati.
Ac roeddwn i’n bwyta lot yn ganol y locdawn cynta’.
Ac wedyn unwaith wnes i gychwyn yn A&E ym mis Awst, roedd y rhan fwyaf o’r shifftiau yn cychwyn am hanner dydd a gorffen am ddeg y nos, neu dau’r pnawn tan hanner nos.
Doedd yna ddim routine.
A pan ti’n gweithio oriau fel yna, ti’n meddwl: ‘Dw i am gael treat’… lot o siocled yn y breakroom.
A tydio ddim yn helpu bod yna gymaint o ddewis o takeaways yng Nghaerdydd… mae o jesd yn rhy hawdd clicio botwm ar dy ffôn, ac mae gen ti fyrgyr o dy flaen mewn rhyw bum munud.
Felly mae o wedi bod yn dda symud i Fethel!
Darllen mwy yma