Fel nifer ohonom, roeddwn yn ymwybodol fod gan de Cymru gysylltiad agos iawn â’r diwydiant glo, a’i fod nid yn unig wedi chwarae rhan bwysig yn ein hanes fel cenedl, ond ei fod wedi siapio nifer o’n cymunedau ni heddiw. Er bod y diwydiant wedi diflannu fwy neu lai, mae wedi gadael ei farc ar gymoedd y de.
Yn yr oes sydd ohoni, rydym yn byw bywydau prysur iawn, ac mae sawl dyfais dechnolegol yn cystadlu am ein sylw. Mae’n bwysicach nag erioed felly fod llyfr yn cydio ynom o’r cychwyn cyntaf – ac mi lwyddodd y nofel hon i wneud hynny’n sicr.
Atgofion John Williams o’i brofiadau cynnar pan fu rhaid i’r teulu adael y gogledd i chwilio am waith yw sail y nofel. Fe blethir hanes y gorffennol yn glyfar i mewn i’r stori, oedd yn cychwyn ym 1963 cyn mynd yn ôl dros hanner can mlynedd i’r Universal Colliery yn 1908.
Mae symud cartref yn anodd beth bynnag, ond dychmygwch wneud hynny ar ddechrau’r ugeinfed ganrif heb ddim o’r dechnoleg fodern sydd gynnon ni heddiw i gadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau a theulu. Yn wir, teimla de Cymru fel byd cwbl wahanol i’r bachgen ifanc. Bu’n rhaid i’r teulu ddygymod â chymdeithas hollol newydd a dieithr, heb sôn am geisio deall yr acenion anghyfarwydd!
Buan iawn y sylweddola John a’i dad fod “adre newydd” yn wahanol iawn i’r “hen adra,” ac mewn dim maen nhw’n llwyddo i godi gwrychyn ambell un o’r trigolion lleol ‘lliwgar’! Ceir disgrifiadau gwych o’r cymeriadau amrywiol hyn gan yr awdur.
Fe fyddwch yn falch o glywed fod y teulu’n llwyddo i wneud ambell i ffrind yn ogystal â gelynion. Mae eu cyfeillgarwch gyda’u cymdogion agos yn nodweddiadol o’r agosatrwydd a’r croeso cynnes a geir hyd heddiw yng Nghymoedd y De. Drwy waith disgrifio a chymeriadu ardderchog, llwydda’r awdur i weu stori bersonol am gyfeillgarwch a brawdoliaeth gyda stori sy’n byrlymu â ffeithiau hanesyddol am y cyfnod. Oherwydd dawn ddiamheuol yr awdur i greu cymeriadau hoffus a chredadwy, cawn ein taro hyd yn oed yn fwy gan uchafbwynt dirdynnol y nofel pan dafla’r cwmwl du ei gysgod dros y cwm.
Cyfeiriad at drychineb Senghenydd yw hyn wrth gwrs, sef y diwrnod erchyll ym mis Hydref 1913 lle bu farw 439 o ddynion a bechgyn yn y ffrwydrad mwyngloddio fwyaf angheuol yn y Deyrnas Gyfunol hyd heddiw. I ni sy’n gweithio yn ein swyddfeydd cysurus heddiw, anodd yw dychmygu caledi bywyd y glowyr. Roedd rhaid iddynt weithio oriau hir o dan amodau didrugaredd, a chafodd y gwaith yma effaith niweidiol ar eu hiechyd.
Chwaraeodd anwybodaeth ac agwedd ffwrdd-â-hi tuag at iechyd a diogelwch ran fawr yn y drasiedi, ac mae’n amlwg nad oedd y rheolwyr wedi dysgu unrhyw wersi yn dilyn trychineb arall debyg a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn flaenorol. Cawsom ein hatgoffa’n gymharol ddiweddar fod peryglon ynghlwm â chloddio am lo hyd heddiw pan ddigwyddodd y ddamwain ym mhwll Gleision, Castell-nedd Port Talbot.
Er bod y nofel yn llawn ffeithiau a thermau diddorol fel afterdamp a firedamp, sy’n dod â chyfnod o hanes go ddieithr erbyn hyn yn fyw i gynulleidfa ifanc, gwir gryfder y nofel yw stori’r teulu sy’n angori’r cyfan. Doedd yr un diwrnod wedi mynd heibio lle nad oedd John Williams yn meddwl ac yn cofio am y dynion a gollwyd y diwrnod hwnnw, ac mae’n hollbwysig ein bod ninnau hefyd yn cofio amdanynt heddiw.
Bu darllen y nofel yn sbardun i mi ymchwilio ymhellach i hanes Senghenydd, ac oherwydd hyn dwi’n credu bod gwerth mawr i’r nofel hon fel adnodd dysgu. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol roeddem yn dysgu cymaint am hanes teulu brenhinol Lloegr, ond byddai wedi bod yn llawer gwell gen i ddysgu am hanes diwydiannol fy ngwlad fy hun. Bydd y llyfr yma’n siŵr o fod yn ddefnyddiol iawn fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, boed hynny yn y sector gynradd neu uwchradd.
Dyma nofel y gallaf ei hargymell 100% i blant ac oedolion ac rwy’n falch o ddweud ei bod hi hefyd ar gael i’w mwynhau yn Saesneg, o dan y teitl The Darkest of Days.