Mae hi yn brofiad rhyfeddol a gwylaidd gweld bod Am bellach yn gartref i dros 500 o broffilau. Proffilau sydd yn amrywio o sefydliadau diwylliannol mawr cenedlaethol i sefydliadau cymunedol llai i unigolion sydd yn creu a/neu yn trefnu. Mae’n gartref sydd â drws agored, yn gartref lle nad yw’r dodrefn yn unffurf ac yn gartref sydd yn gorfod addasu ac ymestyn yn gyson.
Mae sawl rheswm dros nodi cyrraedd 500 proffil:
- Mae 500 proffil yn brawf o dŵf Am a’r gymuned ddigidol sydd wedi ei greu o’i amgylch. Fe gychwynodd Am chwe mlynedd yn ol gyda 75 proffil. Ers hynny mae’r tŵf wedi bod yn un organig wrth i sefydliad ar ôl sefydliad benderfynu y gallem adeiladu gofod a chynulleidfa ddigdol ddiwylliannol cyntaf Cymru gyda’n gilydd. Mae cymaint o drafod pwysigrwydd tŵf o’r gwraidd i fyny ond mae Am yn enghraifft o sut gall hyn weithio. Syniad a fframwaith ddigidol yn unig oedd Am ond fyddai Am ddim yn bodoli heddiw onibai i 500 o broffilau benderfynu bod budd i bawb o gyd-gynllunio, cyd-rannu a chyd-dyfu gofod digidol pwrpasol o’r fath. Dyna pam bod llwyddiant Am yn perthyn yn llwyr i’r 500 proffil yma.
- Mae 500 proffil yma hefyd oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Chyngor y Chelfyddydau, sydd wedi caniatau i’r gofod fod am ddim i bob proffil. Fe sylweddolwyd pwysigrwydd hyn yn y cyfnod ymchwil i sefydlu Am, yn ystod y pandemig ac yn ystod y cynni ariannol sydd wedi effeithio y celfyddydau ers hynny. Mae cael mynediad am ddim i gymuned ac i gynulleidfa eang yn rhywbeth allweddol i unrhyw weithgaredd ddiwylliannol ac mae pwysigrwydd creu y cyfle yna am ddim yn golygu bod y cyfle ar gael i bawb. Gyda ariannu cyhoeddus daw cyfrifoldeb a gwelwn gyfrifoldeb Am yn glir fel gweithio i greu cyfleon hygyrch ac am ddim i ymgysylltu a rhannu diwylliant Cymreig.
- Y rheswm arall dros nodi y 500 yw nodi effaith y mynegiant sydd yn dod o gael 500 o broffilau yn penderfynu creu gofod digidol hygyrch a democrataidd er mwyn cyrraedd cynulleidfa. Mewn cyfnod lle mae sicrhau sylw cyfryngol i weithgaredd diwylliannol ar lefel genedlaethol a chymunedol yn parhau yn her, yr ateb amlwg yw creu ein systemau cynhenid ein hunain i fyw ochr yn ochr â’n cyfryngau ‘traddodiadol’. Ac ar draws cynnwys 500 o broffilau mae ystod ac amrywiaeth y cynnwys yn adlewyrchu diwylliant sydd yn mynnu byw er gwaethaf yr holl heriau. Mae’n addysg ac yn ysbrydoliaeth: i ni sydd yn cael y fraint o weithio yn Am ac i gynulleidfa sydd yn darganfod cyfoeth diwylliannol newydd o’r herwydd.
Felly diolch i’r 500 proffil am y ffydd, y cydweithio, y rhannu, y cefnogi ac am osod seiliau rhywbeth na all wneud dim ond tyfu. Eisiau ymuno a’r gymuned? Gallwch greu proffil yma – mae croeso i bawb.