Caf fy ysbrydoli’n fawr gan fy nhreftadaeth Mecsicanaidd-Americanaidd. Fel dylunydd 3D ac artist, dwi’n canolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth Latiné, atgofion plentyndod, a llên gwerin Mecsicanaidd. Dwi’n archwilio’r ffyrdd y gall cof ddod yn archif ddigidol trwy ailgysyniad. A sut gall atgofion ddod yn fyw yn ein cartrefi a’n hadeiladau trwy wrthrychau a dylunio gofodol. Dwi’n dathlu’r broses o ddatblygu ar gyfer y straeon a’r atgofion hyn, wrth i mi fy hun lywio fy stori fy hun o ddatblygiad, a hynny fel person Mecsicanaidd-Americanaidd sy’n byw yng Nghymru.
Trwy ddylunio cymeriad, darlunio digidol ac adrodd straeon gweledol, dwi’n archwilio’r ailgysyniad gweledol delfrydol o straeon o’r gorffennol. Yn ofalus, hoffwn ddarganfod sut gall gofodau ysgafn adael i straeon dewr symud ymlaen, gan ganiatáu iddyn nhw fodoli eto.
Mae Bosque De Mil Mariposas (Forest Of A Thousand Butterflies) ar ffurf archwiliad tebyg i gêm fideo sy’n digwydd y tu mewn i gaban gwag yng nghoedwigoedd Mecsico. Mae’r gwyliwr yn cael ei annog i archwilio tu mewn i’r caban, gyda bag cefn, pin ysgrifennu a dyddlyfr.
Beth arferai’r caban hwn fod? Pa fath o wrthrychau sy’n byw oddi mewn i’w waliau sy’n chwalu? Pwy oedd yn ei ddefnyddio? I bwy oedd yn perthyn?
Mae yna rai cymeriadau a fydd yn helpu i lywio’r gwyliwr drwy’r gofod. Maen nhw’n ddwyieithog. Byddan nhw’n eich helpu i ddarllen cofnod yn y dyddlyfr, yn disgrifio llun, neu’n tynnu sylw at rywbeth maen nhw’n ei weld wedi’i guddio yng nghornel y caban. Mae’r dodrefn yn y caban yn siarad hefyd; yma, mae gan gadeiriau ystyr, ac mae’r jariau’n dal myfyrdod (ac efallai losin hefyd? Y gwyliwr sy’n penderfynu).
Mae’n gipolwg bach ar fyd llawer mwy trwy ddefnyddio asedau 2D a 3D digidol.