The digital home of Welsh culture.

Endaf ac Ifan Pritchard – Dan Dy Draed

Ifan Pritchard yw prif leisydd un o’r bandiau mwyaf poblogaidd yn Nghymru ar hyn o bryd, Gwilym. Mae’n siarad hefo ni am y broses o weithio ar drac ychydig yn wahanol i’r arfer

Felly Ifan, sut beth oedd hi i weithio gyda Endaf?

Ma’ Endaf yn genius. Mae o wasdad mor hawdd gweithio hefo cerddorion sydd yn hollol glir i ba gyfeiriad mae eu creadigrwydd nhw’n mynd.

Mae ‘Dan Dy Draed’ yn drywydd cwbl wahanol i bop pur dy fand felly sut brofiad oedd hi i arbrofi gydag hon?

Oedd sgwennu ar gyfer trac sydd ddim yn cynnwys oleia’ un guitar yn wahanol brofiad imi, ond unwaith neshi gyrraedd y sdiwdio nath bob dim jysd clicio. Y nod oedd sgwennu alaw a geiria’ oedd yn ffitio o amgylch y trac offerynnol, yn hytrach na’r ffor’ arall rownd. Rhwng gwybodaeth Endaf o arddull top-liners ar traciau house, a fy ngallu i falu cachu hefo alawon a geiria’ tan ma’ wbath yn sticio, ma’r trac ‘di troi allan i fod yn rwbath sbeshal iawn ‘uda i!

Ar hynny felly, a’i profiad hollol newydd oedd hi i weithio ar drac lle gafodd y gerddoriaeth ei ‘sgwennu yn barod?

Pan ma’n dod i sgwennu’r geiria’, ia fi nath’u sgwennu nhw, ond eto, ma’r geiria yn sicr yn ymateb uniongyrchol i’r gerddoriaeth. Wrth sgwennu i Gwilym, fel arfer ma’r ddau yn dod law yn llaw, ond ar gyfer ‘Dan Dy Draed’ oedd o’n braf arbrofi hefo arddullia’ canu electronig, a meddwl be fysa’n gneud i’r gynulleidfa ddeffro’n ganol nôs yn canu un llinell o’r alaw a mynd “o be ma hwnna?”.

Deffinet! Mae’n glir gweld bod brawdoliaeth wedi’i magu yn y broses o ysgrifennu’r sengl. .

Fedrai’m diolch i Endaf ddigon am y profiad, a gewchi ddisgwyl mwy genna ni yn y dyfodol yn sicr!

Diolch am y sgwrs a phob hwyl gyda’r ymateb i’r sengl!

Edrych ymlaen i bawb ei chlywed hi!

A dyma eich cyfle! Ffrydiwch Dan Dy Draed gan Endaf a Ifan Pritchard fan hyn!

SHARE