Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n offeiriad gyda’r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o’i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun (Gwasg Pantycelyn), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, ‘Awelon’, wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy’n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch) ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch), hefyd i Silff Lyfrau 2018.