The digital home of Welsh culture.

Weave/Gwehyddu – Arts & Mental Health in Wales and the UK

No Categories Found

Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant

Gwleidydd Llafur a Chydweithredol yw Lynne Neagle ac ar hyn o bryd hi yw’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru. Mae gan Lynne angerdd dros atal hunanladdiad ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd De Cymru. Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, bu Lynne mewn sawl swydd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan weithio i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a CAB.

Sally Lewis, Rheolwr Rhaglenni, Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Sally wedi gweithio ar draws y celfyddydau, mewn addysg ac ar berthynas y DU â Japan ers 40 mlynedd mewn amrywiol swyddi gan gynnwys i wyliau, Theatr Sadler’s Wells, Sefydliad Japan a londondance.com. Ers chwe blynedd mae gwaith Sally yng Nghyngor y Celfyddydau wedi canolbwyntio ar feithrin partneriaethau strategol i eiriol dros fuddion iechyd a llesiant cyfranogi yn y celfyddydau; cefnogi swyddi creadigol yn y GIG; datblygu’r Cwtsh Creadigol (adnodd llesiant creadigol i’r gweithlu gofal iechyd) a buddsoddi yn Celfyddyd a Chrebwyll sef rhaglen i gefnogi gwell iechyd meddwl drwy’r celfyddydau mewn partneriaeth gyda Sefydliad Baring a’r holl Fyrddau Iechyd ledled Cymru.

Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn BIPAB

Peter yw Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers mis Rhagfyr 2017. Mae’n ystyried bod ei rôl yn gyfle breintiedig i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’w holl gydweithwyr, partneriaid a phobl sy’n byw yn ein cymuned, fel bod y gofal y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ei ddarparu iddynt yn caniatáu iddynt ffynnu, byw a gweithio mewn ffordd sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ef a’r bwrdd iechyd yn ymrwymo i gefnogi defnyddio’r celfyddydau er iechyd a llesiant, er budd ein cleifion, staff a’r gymuned ehangach, fel yr eglurir yn ei strategaeth celfyddydau ac iechyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

SHARE