Cartref digidol diwylliant Cymru.

TAPE

Diwrnod Parlys yr Ymennydd Byd-Eang 2026

Heddiw, ar y 6ed o Hydref 2026, mae’r elusen celfyddydau cymunedol TAPE a’r platfform digidol Am yn falch o gydweithio i gefnogi Diwrnod Parlys yr Ymennydd Byd-Eang.

Mae Diwrnod Parlys yr Ymennydd Byd-Eang yn fudiad byd-eang ar gyfer ac gan y 50 miliwn o bobl sy’n byw gyda pharlys yr ymenntdd, ynghyd â’u teuluoedd a’u cefnogwyr. Fel rhan o’r ymgyrch #UniqueANDUnited, rydym yn arddangos casgliad o ffilmiau pwerus a grëwyd dros y 12 mis diwethaf gan bobl â pharlys yr ymennydd. Mae’r gweithiau hyn wedi cyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y DU, gan ddangos y creadigrwydd, y talent a’r syniadau sy’n ffynnu pan roddir cyfle i bobl arwain ac adrodd eu straeon.

Meddai Steve Swindon, Cyfarwyddwr Creadigol TAPE:

“Yn TAPE, rydym yn credu y dylai pawb gael y cyfle i ddatblygu syniadau creadigol, cael eu clywed, a llunio’r straeon sy’n cael eu rhannu â’r byd. Mae’r ffilmiau hyn yn ymgorffori’r weledigaeth honno: yn rhoi mwy o rym i leisiau, yn herio canfyddiadau, ac yn profi gwerth Cynhwysiant Creadigol”.

Meddai Rachel-Ann Osborn, awdur, cyfarwyddwr a’r prif actor yn ‘Access Denied’:

“Mae Diwrnod Parlys yr Ymennydd yn dathlu’r rhai sy’n byw gyda’r anabledd, gan godi ymwybyddiaeth a meithrin dealltwriaeth. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod unigolion â pharlys yr ymennydd yn aelodau gwerthfawr o’n cymunedau. Mae’r diwrnod hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu ac yn hyrwyddo newid.”

Mae’r clipiau’n cynnwys:

  • Cyflwyniad gan Josh Roberts, Ymddiriedolwr yn TAPE sydd â Palsi Ymenyddol
  • Access Denied, ffilm rymusol am Martha, merch hoyw 20 oed sydd â Pharlys yr Ymennydd.
  • Araith gan Rachel Ann-Osborn yn y première byd-eang o ‘Access Denied’
  • Adroddiad Hawdd ei Ddarllen gan Lil Williams o’r Ŵyl ‘Social Murder’ (Llofruddiaeth Gymdeithasol) yn 2026. Mae ‘Llofruddiaeth Gymdeithasol’ yn cyfeirio at farwolaethau cynamserol ac ataliadwy, ac at anghydraddoldebau iechyd systemig, a brofir gan bobl ag anableddau dysgu yn y DU oherwydd diffyg cynnydd digonol o fewn gofal cymdeithasol.
  • Cyfweliad rhwng Steve Swindon a Josh Roberts ynghylch gwaith TAPE a Chronfa Buddsoddi Cymdeithasol CGCC.

Mae pob clip yn unigryw, gan adlewyrchu’r profiadau, y safbwyntiau a’r cymunedau amrywiol y daethant ohonynt. Ewch draw i dudalen flaen Am i wylio a mwynhau’r holl waith arbennig.

RHANNWCH