Cartref digidol diwylliant Cymru.

Am

AmCam4: Galwad agored am ffilmiau byrion yn dogfennu gweithgaredd amgylcheddol cymunedol

FFURFLEN GAIS

CANLLAWIAU

Mae Am yn falch o gyhoeddi bod ein gŵyl ffilmiau AmCam yn dychwelyd gyda rhifyn arbennig yn benodol am yr amgylchedd. Mewn partneriaeth â’r mudiad gweithredu ar newid hinsawdd cymunedol GwyrddNi, byddwn yn cyfrannu £500 yr un tuag at 4 ffilm fer sydd yn portreadu gweithgaredd gweithredu ar newid hinsawdd mewn cymunedau ledled Cymru, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae’r alwad yma yn dilyn llwyddiant 3 rownd gyntaf AmCam, a welwyd 12 ffilm fer am greadigrwydd cymunedol Cymru yn cael eu comisiynu. Gallwch wylio’r holl ffilmiau yma.

Meddai Lea Glyn, Prif Swyddog Cynnwys Am:

“Mae cymaint o weithgaredd gymunedol – o gerddoriaeth llawr gwlad, i waith cymunedau o artistiaid, i straeon adnoddau cymunedol – wedi ei ddogfennu trwy AmCam hyd yn hyn. Rydym yn falch o ganolbwyntio’r rownd nesaf ar ffilmiau cymunedol sydd yn ymwneud â’r amgylchedd – boed hynny’n portreadu amgylchedd ardal benodol neu’n adrodd straeon cymunedol yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd”.

Meddai Andy Charles-O’Callaghan, Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu GwyrddNi:

“Rydym hynod o gyffrous i bartneru gydag Am ar gyfer y rhifyn amgylcheddol hwn o’u gŵyl ffilm lwyddiannus. Mae gweithredu dan arweiniad y gymuned yn hollbwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae ffilm yn ffordd bwerus o arddangos straeon am y gwaith anhygoel sy’n digwydd ledled Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld y ffilmiau a gyflwynir a fydd, gobeithio, yn mynd ymlaen i ysbrydoli mwy o weithredu cadarnhaol dros yr hinsawdd a natur”.

Mae ceisiadau ar agor nawr, a’r dyddiad cau yw Hydref 7fed. Cliciwch yma i wneud cais a chliciwch yma i weld Canllawiau AmCam. Cefnogir AmCam gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

RHANNWCH